Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Blaenor y Côr (Cyfanswm: 31)

 
(0, 1) 250 Edrychwch!
(0, 1) 251 Be welwch chi draw yna ar gwr y sgwâr
(0, 1) 252 Fel pe'n ansicr ple i droi?
(0, 1) 253 Dieithriaid i bob golwg.
 
(0, 3) 1925 Geiriau doeth, Plwton, ac argymhelliad teg
(0, 3) 1926 Ar achlysur mor chwap annisgwyl,
(0, 3) 1927 Mor feiddgar, ac mor syfrdan anarferol.
(0, 3) 1928 Pa ddewis arall sydd? Ar dir cwrteisi, felly,
(0, 3) 1929 Synnwyr-cyffredin a chymhwyster diplomatig
(0, 3) 1930 Hyd yn oed, rhaid inni dderbyn dy gyngor.
 
(0, 3) 1967 Plwton, rwyt ti'n gofyn rhywbeth anodd iawn;
(0, 3) 1968 Wedi'r cyfan nid ar chwarae bach
(0, 3) 1969 Y gallwn ni, Barchus Gynghorwyr Hades,
(0, 3) 1970 Ystumio'r Tragwyddol Ddilys Ddeddfau —
(0, 3) 1971 Hyd yn oed ar daer ymbiliad Dionysos —
(0, 3) 1972 Ac argymell cam mor syfrdan chwyldroadol.
(0, 3) 1973 Oni fyddai hyn yn agor drws?
(0, 3) 1974 Oni fyddai'n gynsail i bob math o flin helbulon?
(0, 3) 1975 Mae'r ddau ddimensiwn mor gyfan-gwbwl ar wahân
(0, 3) 1976 A'r agendor rhyngddyn nhw mor fawr,
(0, 3) 1977 Ni allaf ddirnad sut mae modd ei bontio.
 
(0, 3) 1997 O'r gorau, Plwton, rhag gwastraffu dim
(0, 3) 1998 O'n hamser ar ryw gant-a-mil o fân betheuach
(0, 3) 1999 A malu awyr hyd at syrffed
(0, 3) 2000 Am fanylion dibwys pitw, di-ben-draw:
(0, 3) 2001 Cynigiaf yma'n ffurfiol ein bod ni,
(0, 3) 2002 Bwyllog Gynghorwyr Hades,
(0, 3) 2003 Yn anfon cynrychiolaeth gref, rhag blaen
(0, 3) 2004 At y cyfryw wrol arwyr — cewri Athen
(0, 3) 2005 Yn y dyddiau gynt — a rhoi yn syml ger eu bron
(0, 3) 2006 Gynllun a chais Dionysos.